{ko merch}
1 Hoed cas er hyd y ceisiwyf
2 hudol serch ehudlas wyf
3 herwydd main yw'r awydd mav
4 hel a diol haul deau
5 hardd yw ynghaen ar vaen vainc
6 hael dduael hi a ddiainc
7 ni chaf yhi oi hanvodd
8 a bvn ni'm cymer oi bodd
9 ni thawaf o daf eb dal
10 mwy nog eos mewn gwial
11 Mair a Duw a Mordeyrn
12 y rhai a wyl vy chwyl chwyrn
13 a wnel hynn yw'r rhyvel-nwyf
14 i mi y naill am vy nwyf
15 ai buan varw heb oir
16 ai cael bvn hael a byw'n hir
17 rhy debig medd rhai dibwyll
18 na wn ponid hwn yw twyll
19 prydu gair pryd a garwyf
20 eithr i vn athro oer wyf
21 o ganmawl bvn hvn heirddryw
22 o gerdd dda ag arwydd yw
23 ni roe ryw borthmon llon llwyd
24 er vgeinpvnt a ganpwyd
25 ni roed naw rad amwyll
26 gwerth hynn onid gwarth a thwyll
27 mul anrheg oedd mal vnrhyw
28 o bai wr a bwa yw
29 yn seuthu lle sathr angor
30 gwylan gaer marian y mor
31 heb goel budd heb gael y byllt
32 na'r edn ewinwedn wenwyllt
33 gwydn wyf bwrw gwawd yn over
34 ai gwaeth bwrw saeth ir ser
35 pei prydwn gwn gan henglyn
36 er Duw a brydais er dyn
37 hawdd y gwnai erof o hawl
38 vyw o varw vwyvwy eiriawl
39 [373] ni wnai hi erofi vaint
40 y mymryn gwenddyn gwynddaint
41 gwell gan vvn ni'm gad hvn hawdd
42 i hensail clyd ai hansawdd
43 no bod yn rhith gaer gwlith gwledd
44 gwirvawl gain Gweirvyl Gwynedd
45 ni newidie ne wowdair
46 lle may a bod gerllaw Mair
47 ni aned merch dreiglserch draidd
48 velenwallt mor vvleiniaidd
49 o gwrthyd liw eiry gorthir
50 y vav wawd hon a vv wir
51 gwrthodiad y marchnadoedd
52 gwrthodiaeth vanwyl wyl oedd
53 clwyf pa glwyf gloywa veinwen
54 plwm a fals pla am i phen
Dauid ap Gwilim